Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 13 Mawrth 2018
Amser:
08.30 -
08.46
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Julie James AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y ddwy Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 18 Ebrill 2018
· Cynnig i grwpio'r ddwy eitem a ganlyn i'w trafod ond gan bleidleisio ar wahân (60 munud):
- Cynnig i gymeradwyo Polisi Urddas a Pharch y Cynulliad
- Cynnig i gymeradwyo diwygiadau i God Ymddygiad yr Aelodau.
·
Dadl Plaid Cymru -
gohiriwyd tan 25 Ebrill
Dydd Mercher 25 Ebrill 2018
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60
munud) -
gohiriwyd o 18 Ebrill
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil Cyllid Gofal Plant (Cymru) at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'w ystyried yng Nghyfnod 1.
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ymgynghori ar ddyddiadau cau Cyfnod 1 a Chyfnod 2.
Gofynnodd y Rheolwyr Busnes i'r Ysgrifenyddiaeth gadarnhau a oedd y dyddiadau hanner tymor a gynigiwyd ar gyfer hydref 2018 a gwanwyn 2019 yn unol â gwyliau ysgol ledled Cymru, neu a oedd y dyddiadau'n amrywio mewn gwahanol rannau o'r wlad. Bydd y Pwyllgor Busnes yn ystyried y mater eto yr wythnos nesaf, pan fydd y wybodaeth honno ar gael.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y trefniadau cyflwyno adeg toriad y Pasg, Gŵyl Fai, a hanner tymor y Llungwyn 2018
Os bydd y Cynulliad yn cytuno ar yr Egwyddorion Cyffredinol a phenderfyniad ariannol y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd yr wythnos hon, bydd Cyfnod 2 yn digwydd mewn Pwyllgor o'r Cynulliad Cyfan ddydd Mawrth nesaf.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y bydd Pwyllgor y Cynulliad Cyfan yn dechrau am 13:00 ac y bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau 15 munud ar ôl iddo orffen.
O dan yr amserlen y cytunwyd arni gan y Cynulliad, bydd Cyfnod 3 y Bil yn cael ei gynnal ddydd Mercher 21 Mawrth. Cytunodd y Rheolwyr Busnes iddo gael ei drafod fel yr eitem olaf o fusnes, er mwyn caniatáu’r cyfnod hwyaf posibl ar gyfer cyflwyno gwelliannau ar ôl cwblhau Cyfnod 2 a pharatoi papurau ac ati.